top of page

 

BYWGRAFFIAD

BIOGRAPHY

Mae Daf Jones yn gerddor a gitarydd unigol acwstig o Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae o wedi bod yn ganwr ac yn gyfansoddwr ers sawl blwyddyn ac wedi chwarae yn gyson ledled Gogledd Cymru ac yn yr ardal Gaer / Gogledd Orllewin yn ei amser fel artist hyd yma. Mae Daf yn 'sgwennu ei ganeuon ei hun ac hefyd yn chwarae sawl cân clawr Saesneg dros amryw o 'genres'   megis Roc, Canu Gwlad, Pop ac Amgen.

 

Mae Daf yn bennaf yn chwarae gigs mewn tafarndai a bariau ond wastad yn agored i chwarae lleoliadau gwahanol yn ddibynnol ar yr ymholiad, ac yn aml fe deithiai ymhellach o'i gartref yn Ynys Môn i chwarae gigs.

 

Rhyddhaodd Daf ei EP cyntaf, 'Dare to Dream' yn ddwyieithog, gan gynnwys caneuon gwreiddiol yn Gymraeg a Saesneg. Roedd hyn yn dilyn ymlaen tair blynedd ar ôl ei sengl sdiwdio cyntaf, 'Stone' a ryddhawyd yn 2016. Cafodd 'Dare to Dream' ei recordio rhwng Ebrill a Mehefin 2019 yn Stiwdio Ty'n Rhos, Bryngwran gyda'i gyd gerddor, cynhyrchydd a peiriannwr sain, Rhys Jones (dim yn berthyn). 

 

Mae 'Dare to Dream' ar gael ar blatfformau digidol i gyd gan gynnwys iTunes, Google Play, Amazon, yn ogystal â safleoedd ffrydio fel Spotify, Apple Music, Amazon Music, Deezer a mwy. 

 

Dychwelodd Daf i'r stiwdio hefo Rhys ym mis Ionawr 2020 i gychwyn gwaith recordio albym agoriadol newydd sbon Gymraeg, 'Paid Troi 'Nôl' a gafodd ei dderbyn yn dda iawn gan gefnogwyr a'r wasg Gymreig. Dewisodd BBC Radio Cymru ei brif sengl, 'Diffodd y Swits' fel 'Trac yr Wythnos', a cafodd y ddwy sengl dilynol, 'Sbardun' a 'Tafliad Carreg' eu harddangos ar eu rhestr chwarae am sawl wythnos. Cafodd 'Sbardun' hefyd ei chwarae yn ddiweddar ar gyfres newydd rhaglen 'Noson Lawen' i gymeradwyaeth cynnes iawn. Mae Daf wedi cael llwyddiant gwych hefo'i albym newydd - sydd ar gael ar blatfformau digidol ac ar CD! Gallwch brynu copi trwy fynd i waelod y dudalen flaen a dilyn y cyfarwyddiadau, cysylltu yn uniongyrchol hefo Daf i brynu'ch copi wedi'w arwyddo, neu trwy fynd draw i'w siop newydd ar-lein - dafjones.bigcartel.com   - ganddoch chi mae'r dewis!

 

Mae Daf wedi chwarae cannoedd o gigs ledled Gogledd Cymru a thu hwnt - i mewn i Ganolbarth Cymru ac i ardal Gaer a'r cyffiniau, ac wedi adeiladu enw da iddo'i hun tros flynyddoedd o waith caled yn perfformio ac wedi adeiladu perthnasau agos gyda bandiau ac artistiaid lleol yn y broses. Mae Daf wedi rhannu llwyfan hefo rhai o fandiau ac artistiaid enwocaf Cymru gan gynnwys Frizbee, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods, Steve Eaves, ac ym mis Gorffennaf 2022 yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cafodd y fraint o rannu llwyfan hefo'r dyn ei hun, Dafydd Iwan. 

 

Mae Daf yn defnyddio system PA o safon uchel ar gyfer ei gigs byw, felly gallwch chi ddisgwyl safon sain ac ansawdd o'r radd flaenaf. Mae Daf yn broffesiynol, hyblyg ac wedi'w warchod yn llawn gydag Yswiriant yn erbyn Atebolrwydd Cyhoeddus. Mae ei gyfarpar electronig i gyd wedi cael ei PAT-brofi hefyd, felly gallwch ymlacio. 

 

Mae Daf yn hapus iawn i allu chwarae tafarndai, bariau, bwytai, achlysuron preifat a phriodasau - felly os fuasai gennych chi ddiddordeb i Daf chwarae eich digwyddiad, peidiwch ag oedi i glicio'r botwm 'Cyswllt' ar frig y wefan neu trwy'r botymau cyfryngau cymdeithasol ar waelod y dudalen.

 

Archebwch Daf HEDDIW iddo chwarae eich lleoliad neu'ch digwyddiad CHI - peidiwch a methu allan!

 

 

Daf Jones is a solo acoustic singer/songwriter and guitarist from Anglesey, North Wales. He has been a singer/songwriter for many years and has played many venues over North Wales and in the Chester / North West area in his time as an artist so far. He writes his own songs and also covers many English songs from a variety of genres such as Rock, Country, Pop and Alternative.

 

Daf mostly plays pub / bar gigs but is always open to playing different venues dependent on the enquiry, and often travels further afield from his Anglesey base to play gigs.

 

Daf released his very first EP, the bilingual 'Dare to Dream', featuring both English and Welsh original songs. This followed on from his very first studio single back in 2016, 'Stone'. 'Dare to Dream' was recorded between April and June 2019 over at Stiwdio Ty'n Rhos in Bryngwran, Anglesey with fellow musician, producer and sound engineer Rhys Jones (no relation).

 

'Dare to Dream' is available on all digital platforms on iTunes, Google Play, Amazon as well as being streamable on sites such as Spotify, Apple Music, Amazon Music, Deezer and more.

 

Daf returned to the studio with Rhys in January 2020 to start work on recording a brand new Welsh debut album, which was very well received by fans and the Welsh media. BBC Radio Cymru selected his lead single, 'Diffodd y Swits' as their 'Track of the Week', and the following two singles, 'Sbardun' and 'Tafliad Carreg' were also featured on their shortlist. 'Sbardun' also recently featured on S4C's 'Noson Lawen' programme, and was very well received. Daf has had fantastic success from his new album - which is also available on all digital platforms, as well as on CD! You can either buy a copy by following the instructions at the bottom of the homepage, by contacting Daf on his social channels to buy your signed copy, or by visiting his new online store at dafjones.bigcartel.com  - the choice is yours!

 

Daf is an extremely experienced performer and has played hundreds of gigs across North Wales and beyond, as well as a handful of gigs in Mid Wales and the Chester area, which he continues to do so. He has built a very good reputation for himself over the years as a hard working live musician and has built up strong relations with many local musicians and bands in the process. Daf has been incredibly fortunate to share stages with some of Wales' finest bands and artists including Frizbee, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods, Steve Eaves, and in July 2022 during the week of the Eisteddfod he had the honour of sharing a stage with Welsh music royalty, Dafydd Iwan.  

 

Daf uses a high quality Bose L1 compact PA system for his live gigs, so you can expect a state of the art sound and quality. Daf is professional, flexible and is fully covered by Public Liability Insurance. All his electrical equipment is fully PAT tested too, so you can feel at ease.

 

Daf is delighted to be able to play pubs, bars, restaurants, private events and weddings - so if you would be interested in having Daf play at your venue then please do not hesitate to get in touch via the 'Contact' tab at the top of the website or via the social media buttons at the bottom of the page.

 

Book Daf today to have him play at YOUR venue or event - do not miss out!

Extremely talented bilingual singer/songwriter and musician. Very professional and highly recommended. (10 / 10)

 

DYLAN MORRIS

SINGER/SONGWRITER & MUSICIAN

Daf Jones is a quality performer with a really diverse back catalogue of covers and original songs in English and Welsh. He has a distinct voice and tremendous technical ability on acoustic guitar. I'd highly recommend Daf for live entertainment and you won't be disappointed. (10 / 10)

 

ALWYN RICHARDS

SINGER/SONGWRITER & MUSICIAN

Classy and down to earth welsh musician. Loved his performance on S4C's 'Noson Lawen' programme. Clearly works very hard as he used to do a daily online gig with cover versions. Hell of a repertoire behind him. Book now (10 / 10)

 

DAFYDD HEDD

SINGER/SONGWRITER AND MUSICIAN

Daf is an excellent performer. Bringing a fantastic mix of Welsh and English original material and covers. Was the perfect fit for our Welsh themed event (10 / 10)

 

CAZ COATHUP

EVENTS CO-ORDINATOR

One of my top performers and the local's favourite singer at my hotel in Beddgelert (10 / 10)

 

ALUN JONES

HOTEL OWNER & PROPRIETOR

A dedicated performer with a wide repertoire and even wider vocal range! Would certainly recommend. (10 / 10)

 

ALISTAIR JAMES

RADIO DJ & SINGER/SONGWRITER 

bottom of page